Student Recruitment & Support Adviser (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)Salary: £26707.00Newid eich gyrfa, newid bywydauY Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).Y RôlMae dros 16,000 o fyfyrwyr o gymunedau ledled Cymru yn astudio gyda’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd, ac mae mwy na dwy ran o dair ohonynt mewn cyflogaeth wrth astudio. Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gyda busnesau, elusennau, undebau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i helpu i ddatblygu eu staff, ac i annog mwy o bobl i ddysgu gydol oes, waeth beth fo’u cefndir. Mae gan y Brifysgol fyfyrwyr ym mhob etholaeth yng Nghymru.Mae gennym ddwy cyfle cyffrous newydd i weithwyr gwasanaeth cwsmeriaid ymuno â’r tîm rheng flaen yn ein Canolfan Gyswllt Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr. Mae hon yn rôl brysur ac amrywiol, lle byddwch yn helpu ein myfyrwyr – a’r rhai sy’n ystyried astudio gyda ni – i wneud penderfyniadau am eu dysgu.Mae ein Cynghorwyr Myfyrwyr yn bwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr sy’n chwilio am wybodaeth am astudio gyda’r Brifysgol Agored. Mae’r tîm yn cefnogi myfyrwyr drwy sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen i wneud y dewisiadau astudio cywir iddynt, ac i gofrestru a thalu drwy’r dull o’u dewis. Mae’r tîm yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i gefnogi myfyrwyr ac ymholwyr.Mae’r rôl yn cynnwys llawer o waith ffôn, galwadau mewnol ac allanol, i ddarparu cymorth i fyfyrwyr drwy eu taith astudio, yn ogystal ag e-byst, llythyrau, sgwrs we a dulliau eraill fel bo’n angenrheidiol. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth weithio gyda sawl system, gwybodaeth a chronfa ddata i gynnal manylion myfyrwyr ac ymholwyr. Byddwch yn sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei rhoi i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i ddarparu cymorth. Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth dwyieithog llawn i ymholwyr a myfyrwyr fel y gallant gyfathrebu â ni yn eu hiaith ddewisol. Mae’r cyfleoedd hyn ar gyfer gweithwyr gwasanaeth cwsmeriaid sy’n hyderus yn eu gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu Saesneg drwy bob sianel.Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl gan Gynghorwyr profiadol presennol gan ddefnyddio deunyddiau o ansawdd uchel, ac yna cymorth, hyfforddiant a datblygiad rheolaidd gan eich Rheolwr Tîm a chyd-aelodau profiadol i adeiladu eich hyder a’ch gwybodaeth yn y rôl.Rydym yn sefydliad arloesol ac yn gweithio i ddatblygu’r cymorth a gynigiwn i’n cydweithwyr a dysgwyr Cymraeg. Fel rhan o’ch hyfforddiant, byddwch yn dysgu am y gwasanaeth dwyieithog a gynigiwn a sut y byddwch yn cymryd rhan yn cefnogi ein dysgwyr sy’n dewis cyfathrebu â ni yn Gymraeg. Mae rhwydwaith o gydweithwyr Cymraeg eu hiaith o fewn y Brifysgol, a byddwch yn cael eich cefnogi ac annog i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich gwaith o ddydd i ddydd.Mae’r rôl hon yn llawn amser, 37 awr yr wythnos, a bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus weithio patrwm hyblyg rhwng yr oriau agor presennol sef 8.00am – 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.Sylwch: bydd cyfyngiadau ar wyliau yn ystod y cyfnod hyfforddi cychwynnol, Awst, Medi, Hydref a Ionawr gan mai dyma’r cyfnod gweithredol prysuraf.Cyfrifoldebau AllweddolDarparwyr Gwasanaeth Aml-sianelDarparu gwybodaeth i ymholwyr a myfyrwyr gan ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg yn dibynnu ar ddewis y dysgwr, gan eu cefnogi gyda’r broses gofrestru, ymholiadau am gyllid, a gwybodaeth gyffredinol am y Brifysgol Agored drwy alwadau ffôn mewnol/allanol ac e-byst yn bennaf.Trosglwyddo galwadau’n rhagweithiol i dimau arbenigol am gyngor a chanllawiau pellach lle bo’n briodol fel rhan o fodel Gwybodaeth, Cyngor a Chanllawiau.Gan ddefnyddio eich profiad a’ch menter, byddwch yn llywio ac yn ymateb i faterion, gan ddehongli a chymhwyso gweithdrefnau a chanllawiau yn unol â pholisïau cytunedig.Prosesau Gweithredol a SafonauCyflawni unrhyw dasgau gweinyddol neu brosesau sy’n gysylltiedig ag ymholiadau neu geisiadau myfyrwyr mewn modd amserol.Cofnodi cyswllt â myfyrwyr, adolygu a diweddaru cofnodion gan ddefnyddio systemau’r Brifysgol.Gweithio ar rota fel rhan o dîm i sicrhau bod yr holl weithgarwch yn cael ei drin yn brydlon ac yn effeithiol, ac o fewn y Lefelau Gwasanaeth a gytunwyd.Cwrdd â’r safonau gwasanaeth disgwyliedig ac ymdrechu i’w rhagori, gan ddarparu profiad cadarnhaol i bob myfyriwr ac ymholwr drwy eu rhoi wrth galon popeth a wnewch.Gwella ac Datblygu ParhausCofleidio ein diwylliant o welliant parhaus, er enghraifft drwy gymryd rhan mewn mentrau ansawdd a chyfrannu mewn cyfarfodydd tîm.Adnabod a dathlu llwyddiannau, tra’n cymryd cyfrifoldeb i weithredu ar adborth, gan wneud pethau’n well gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad.Chwilio am gyfleoedd i’ch herio a’ch datblygu, gan siarad yn agored â’ch Rheolwr Tîm am eich perfformiad eich hun, ac ymdrechu i ddod yn arbenigwr yn eich maes.Mynychu digwyddiadau hyfforddi a sesiynau briffio i sicrhau bod gennych fynediad at wybodaeth weithredol gywir a chyfredol, fel eich bod yn gallu mabwysiadu arferion a gweithdrefnau busnes cywir a sy’n esblygu.Mynychu a chyfrannu’n weithgar mewn cyfarfodydd tîm, gan gynnig syniadau a mentrau i wella’r busnes a gwneud y ddarpariaeth gwasanaeth mor effeithlon â phosibl.Ymgysylltu’n gadarnhaol â chefnogi a datblygu aelodau newydd o’r tîm.Rhannu gwybodaeth ac arferion gorau ag eraill ar draws cyfadrannau ac adrannau.Amdanoch ChiHanfodolGallu cyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gyda agwedd “gallwn ni” ac mewn dull proffesiynol.Profiad o ymateb i ymholiadau amrywiol ac o weithredu arnynt, gan ddefnyddio ystod eang o ffynonellau gwybodaeth.Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig e.e. technegau ffôn effeithiol, defnyddio Saesneg clir i egluro polisïau a gweithdrefnau ac i ysgrifennu’n glir, yn gryno ac yn gywir.Gallu delio â gwybodaeth a gweithdrefnau dogfennedig: defnyddio menter i ddatrys problemau, gan gydnabod ffiniau.Sgiliau TG profedig, gan gynnwys defnyddio pecynnau Microsoft Office.Profiad o weithio’n effeithiol mewn tîm, a gweithio i gyrraedd targedau personol, tîm ac sefydliadol.Sgiliau trefnu da gan gynnwys gallu i gwrdd â therfynau amser, gweithio’n gynhyrchiol ac yn gywir mewn amgylchedd dan bwysau.Hyblygrwydd gan gynnwys gallu i addasu i amgylchiadau newidiol (gweithio o gartref ac o’r swyddfa), dyletswyddau ac arferion gwaith.Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad parhaus.Dealltwriaeth gadarn ac ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth, ynghyd â dealltwriaeth ac empathi gyda gweithio mewn amgylchedd dwyieithog.DymunolProfiad o weithio mewn model hybrid ac o gyfathrebu o bell.Profiad o weithio mewn amgylchedd addysg uwch.Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid cymhleth aml-sianel ac o ymdopi â nifer fawr o alwadau ffôn, e-byst a gohebiaeth.Profiad o weithio gyda system rheoli perthynas â chwsmeriaid (CRM).NVQ lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid neu Wybodaeth, Cyngor a Chanllawiau.Cymorth gyda'ch caisOs bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.Beth yw'r buddion i chi?Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).Trefniadau Gweithio HyblygRydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.Camau nesaf yn y broses RecriwtioBydd y rhestr fer yn cael ei chynnal yr wythnos yn dechrau 11 Ionawr 2026Gellir cyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.Nodwch os hoffech ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfweliad neu unrhyw fath arall o asesiad. Byddwn yn darparu cyfieithydd ar y pryd os bydd angen un.Hysbysiad dyddiad cau cynnarEfallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar. Sut i wneud caisI wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:CVDatganiad cefnogol o ddim mwy na 1000 o eiriau yn amlinellu sut rydych yn bodloni’r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl hon.Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.